Galwch Acw - Cartref

Siop gelf a chrefftau sydd yn wahanol i unrhyw un arall yw Galwch Acw. Rydym wedi ein lleoli ar Stryd Bangor yng Nghaernarfon, yng nghanol prysurdeb a bwrlwm y dref. Agorwyd drysau Galwch Acw ym mis Hydref 2019, a’i brif bwrpas yw ymddwyn fel arddangosfa i grefftau a chelf arbennig sydd yn gael eu greu gan unigolion gydag anableddau dysgu mewn canolfannau a hybiau ar draws Gwynedd. Yn ogystal, mae Galwch Acw yn ymddwyn fel hwb cymunedol, drwy gynnig cyfleoedd i unigolion ddatblygu sgiliau byd gwaith, datblygu annibyniaeth ac awyrgylch saff i fynegi eu hunain drwy gelf a chrefftau a llawer mwy.


Bydd unrhyw elw a gneuir yn y siop yn cael ei ail-fuddsoddi er mwyn datblygu mwy o wasanaethau i oedolion gydag anableddau dysgu yma yng Ngwynedd. Mae hwn yn fodel mae gwasanaeth anabledd dysgu Cyngor Gwynedd wedi defnyddio ers rhai blynyddoedd, ac yn rhywbeth all helpu sicrhau gwasanaethau o’r safon orau i unigolion yn y sir yn ystod cyfnodau o ansicrwydd ariannol. Yn ogystal â datblygu gwasanaethau dydd i unigolion ag anableddau dysgu, bwriedir defnyddio’r siop er budd y gymuned leol, yn bennaf drwy gynnal cyfres o weithdai gwybodaeth a digwyddiadau gyda’r nos yn y dyfodol agos.


Pan gerddwch trwy’r drws, sylweddolwch yn syth mai ethos Galwch Acw yw ‘uwchgylchu’ a gwneud defnydd o bethau mae pobl wedi anghofio amdanynt. Daw hynny’n glir pan welwch ein bwrdd crefftau trawiadol, sydd wedi’i greu drwy ailgylchu hen blanciau sgaffald a metel sgrap. Hefyd, mae llawer o’r nwyddau ar werth yma wedi cael eu gwneud o hen baledi, dillad a phlastigion. Os hoffwch ddod i wybod mwy am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yma, pam na alwch chi draw am baned a sgwrs? Neu dilynwch ni ar Facebook ac Instagram!